Y Gododin: A Poem of the Battle of Cattraeth - Part 5
Library

Part 5

LIII.

Kywyrein ketwyr kywrennin E gatraeth gwerin fraeth fysgyolin Gwerth med yg kynted a gwirawt win Heyessit e lavnawr rwng dwy vedin Arderchauc varchawc rac G.o.dodin Eithinyn voleit murgreit tarw trin

LIV.

Kywyrein ketwyr kywrenhin Gwlat atvel gochlywer a eu dilin Dygoglawd ton bevyr beryerin Men yd ynt eilya.s.saf elein O brei vrych ny welych weyelin Ny chemyd haed ud a gordin Ny phyrth mevyl moryal eu dilin Llavyn durawt barawt e waetlin

LV.

Kywyrein ketwyr kywrenhin Gwlat atvel gochlywer eu dilin Ef lladawd a chymawn a llain A charnedawr tra gogyhwc gwyr trin

LVI.

Kywyrein ketwyr hyuaruuant Y gyt en un vryt yt gyrcha.s.sant Byrr eu hoedyl hir eu hoet ar eu carant Seith gymeint o loegrwys a lada.s.sant O gyvryssed gwraged gwyth a wnaethant Llawer mam ae deigyr ar y hamrant

LVII.

Ny wnaethpwyt neuad mor dianaf Lew mor hael baran llew llwybyr vwyhaf A chynon laryvronn adon deccaf Dinas y dias ar llet eithaf Dor angor bedin bud eilya.s.saf Or sawl a weleis ac a welav Ymyt en emdwyn aryf gryt gwryt gwryaf Ef lladei oswyd a llavyn llymaf Mal brwyn yt gwydynt rac y adaf Mab klytno clot hir canaf Yty or clot heb or heb eithaf

LVIII.

O winveith a medweith DyG.o.dolyn gwnlleith Mam hwrreith Eidol enyal Ermygei rac vre Rac bronn budugre Breein dwyre Wybyr ysgynnyal Kynrein en kwydaw Val glas heit arnaw Heb giliaw gyhaual Synnwyr ystwyr ystemel Y ar weillyon gwebyl Ac ardemyl gledyual Blaen ancwyn anhun Hediw an dihun Mam reidun rwyf trydar

LIX.

O winveith a medweith yd aethant E genhyn llurugogyon Nys gwn lleith lletkynt Cyn llwyded eu lleas dydaruu Rac catraeth oed fraeth eu llu O osgord vynydawc wawr dru O drychant namen un gwr ny dyvu

LX.

O winveith a medveith yt gryssya.s.sant Gwyr en reit moleit eneit dichwant Gloew dull y am drull yt gytvaethant Gwin a med amall a amucsant O osgord vynydawc am dwyf atveillyawc A rwyf a golleis om gwir garant O drychan riallu yt gryssya.s.sant Gatraeth tru namen vn gwr nyt atcorsant

LXI.

Hv bydei yg kywyrein pressent mal pel Ar y e hu bydei ene uei atre Hut amuc ododin O win a med en dieding Yng ystryng ystre Ac adan gatvannan cochre, Veirch marchawc G.o.drud e more

LXII.

Angor dewr daen Sarph seri raen Sengi wrymgaen Emlaen bedin Arth i arwynawl drussyawr dreissyawr Sengi waewawr En dyd cadyawr Yg clawd gwernin Eil nedic nar Neus duc drwy var Gwled y adar O drydar drin Kywir yth elwir oth enwir weithret Ractaf ruyuyadur mur catuilet Merin a madyein mat yth, anet

LXIII.

Ardyledawc canu kyman caffat Ketwyr am gatraeth a wnaeth brithret Brithwy a wyar sathar sanget Sengi wit gwned bual am dal med A chalaned kyuurynged Nyt adrawd kibno wede kyffro Ket bei kymun keui dayret

LXIV.

Ardyledawc canu kyman ovri Twrf tan a tharan a ryuerthi Gwrhyt arderchawc varchawc mysgi Ruduedel ryuel a eiduni Gwr gwned divudyawc dimyngyei Y gat or meint gwlat yd y klywi Ae ysgwyt ar y ysgwyd hut arolli Wayw mal gwin gloew o wydyr lestri Aryant am yued eur dylyi Gwinvaeth oed waetnerth vab llywri

LXV.

Ardyledawc canu claer orchyrdon A gwedy dyrreith dyleinw aeron Dimcones lovlen benn eryron Llwyt ef gorevvwyt y ysgylvyon Or a aeth gatraeth o eur dorchogyon Ar neges mynydawc mynawc maon Ny doeth en diwarth o barth vrython Ododin wr bell well no Chynon

LXVI.

Ardyledawc canu kenian kywreint Llawen llogell byt bu didichwant Hu mynnei engkylch byt eidol anant Yr eur a meirch mawr a med medweint Namen ene delei o vyt hoffeint Kyndilic aeron wyr enouant

LXVII.