Y Gododin: A Poem of the Battle of Cattraeth - Part 2
Library

Part 2

Gwyr a aeth gatraeth gan wawr Trauodynt en hed eu hovnawr Milcant a thrychant a emdaflawr Gwyarllyt gwynnodynt waewawr Ef gorsaf yng gwryaf eg gwryawr Rac gosgord mynydawc mwynvawr

XI.

Gwyr a aeth gatraeth gan wawr Dygymyrrws eu hoet eu hanyanawr Med evynt melyn melys maglawr Blwydyn bu llewyn llawer kerdawr Coch eu cledyuawr na phurawr Eu llain gwyngalch a phedryollt bennawr Rac gosgord mynydawc mwynvawr

XII.

Gwyr a aeth gatraeth gan dyd Neus goreu o gadeu gewilid Wy gwnaethant en geugant gelorwyd A llavnawr llawn annawd em bedyd Goreu yw hwn kyn kystlwn kerennyd Enneint creu ac angeu oe hennyd Rac bedin Ododin pan vudyd Neus goreu deu bwyllyat neirthyat gwychyd

XIII.

Gwr a aeth gatraeth gan dyd Ne llewes ef vedgwyn veinoethyd Bu truan gyuatcan gyvluyd E neges ef or drachwres drenghidyd Ny chryssiws gatraeth Mawr mor ehelaeth E aruaeth uch arwyt Ny bu mor gyffor O eidyn ysgor A esgarei oswyd Tutuwlch hir ech e dir ae dreuyd Ef lladei Saesson seithuet dyd Perheit y wrhyt en wrvyd Ae govein gan e gein gyweithyd Pan dyvu dutvwch dut nerthyd Oed gwaetlan gwyaluan vab Kilyd

XIV.

Gwr a aeth gatraeth gan wawr Wyneb udyn ysgorva ysgwydawr Crei kyrchynt kynnullynt reiawr En gynnan mal taran twryf aessawr Gwr gorvynt gwr etvynt gwr llawr Ef rwygei a chethrei a chethrawr Od uch lled lladei a llavnawr En gystud heyrn dur arbennawr E mordei ystyngei a dyledawr Rac erthgi erthychei vydinawr

XV.

O vreithyell gatraeth pan adrodir Maon dychiorant eu hoet bu hir Edyrn diedyrn amygyn dir A meibyon G.o.debawc gwerin enwir Dyforthynt lynwyssawr gelorawr hir Bu tru a dynghetven anghen gywir A dyngwt y dutvwlch a chyvwlch hir Ket yvein ved gloyw wrth leu babir Ket vei da e vlas y gas bu hir

XVI.

Blaen echeching gaer glaer ewgei Gwyr gweiryd gwanar ae dilynei Blaen ar e bludue dygollouit vual Ene vwynvawr vordei Blaen gwirawt vragawt ef dybydei Blaen eur a phorphor kein as mygei Blaen edystrawr pasc ae gwaredei Gwrthlef, ac euo bryt ae derllydei Blaen erwyre gawr buduawr drei Arth en llwrw byth hwyr e techei

XVII.

Anawr gynhoruan Huan arwyran Grwledic gwd gyffgein Nef enys brydein Garw ryt rac rynn Aes elwrw budyn Bual oed arwynn Eg kynted eidyn Erchyd ryodres E ved medwawt Yuei win gwirawt Oed eruit uedel Yuei win gouel Aerueid en arued Aer gennin vedel Aer adan glaer Kenyn keuit aer Aer seirchyawc Aer edenawc Nyt oed diryf y ysgwyt Gan waywawr plymnwyt Kwydyn gyuoedyon Eg cat blymnwyt Diessic e dias Divevyl as talas Hudid e wyllyas Kyn bu clawr glas Bed gwruelling vreisc

XVIII.

Teithi etmygant Tri llwry novant Pymwnt a phymcant Trychwn a thrychant Tri si chatvarchawc Eidyn euruchawc Tri llu llurugawc Tri eur deyrn dorchawc Tri marchawc dywal Tri chat gyhaual Tri chysneit kysnar Chwerw vysgynt esgar Tri en drin en drwm Llew lledynt blwm Eur e gat gyngrwn Tri theyrn maon A dyvu o vrython Kynri a Chenon Kynrein o aeron Gogyuerchi yn hon Deivyr diuerogyon A dyvu o vrython Wr well no Chynon Sarph seri alon

XIX.

Eveis y win a med e mordei Mawr meint e vehyr Yg kyuaruot gwyr Bwyt e eryr erysmygei Pan gryssyei gydywal kyfdwyreei Awr gan wyrd wawr kyui dodei Aessawr dellt ambellt a adawei Pareu rynn rwygyat dygymmynei E gat blaen bragat briwei Mab syvno sywedyd ae gwydyei A werthws e eneit Er wyneb grybwyllyeit A llavyn lliveit lladei Lledessit ac a thrwys ac affrei Er amot aruot arauethei Ermygei galaned O wyr gwychyr gwned Em blaen gwyned gwanei

XX.

Eveis y win a med e mordei Can yueis disgynneis rann fin fawd ut Nyt didrachywed colwed drut Pan disgynnei bawb ti disgynnot Ys deupo gwaeanat gwerth na phechut Pressent i drawd oed vreichyawr drut

XXI.

Gwyr a aeth gatraeth buant enwawc Gwin a med o eur vu eu gwirawt Blwydyn en erbyn urdyn deuawt Trywyr a thri ugeiut a thrychant eurdorchawc Or sawl yt gryssya.s.sant uch gormant wirawt Ny diengis namyn tri o wrhydri fossawt Deu gatki aeron a chenon dayrawt A minheu om gwaetfreu gwerth vy gwennwawt

XXII.

Uyg car yng wirwar nyn gogyffrawt O neb o ny bei o gwyn dragon ducawt Ni didolit yng kynted o ved gwirawt Ef gwnaei ar beithing perthyng aruodyawc Ef disgrein eg cat disgrein en aelawt Neus adrawd G.o.dodin gwedy fossawt Pan vei no llwyeu llymach nebawt

XXIII.

Aryf angkynnull agkyman dull agkysgoget Tra chywed vawr treiglessyd llawr lloegrwys giwet Heessit eis ygkynnor eis yg cat uereu Goruc wyr lludw A gwraged gwydw Kynnoe angheu Greit vab hoewgir Ac ysberi Y beri creu

XXIV.